Bydd y DVD sy’n rhan o’r adnodd yma wedi darparu rhywfaint o gyfarwyddyd ar sylfeini chwarae iwcalili ac os nad oes gennych chi un, rydym yn argymell eich bod yn cael un yma (neu gan unrhyw gwmni ar-lein arall dibynadwy): Martin Smith Soprano Ukulele
Hefyd, ac ar gyfer y rhai sydd â mynediad i’r rhyngrwyd, mae ein rhaglen yn cynnig athrawon medrus sy’n gallu darparu hyfforddiant yn defnyddio’r rhyngrwyd.
Ar gyfer y gweithgaredd hwn, bydd rhaid i chi allu cael mynediad i’r rhyngrwyd a bod â gwe gamera (bydd ffôn symudol clyfar yn gweithio hefyd).
Bydd y rhaglen yn cefnogi llais, gitar (rhythm, arweiniol neu fas), allweddellau gan gynnwys piano ac organ, iwcalili, drymiau ac offerynnau taro.
Bydd yr holl gyfranogwyr yn gweithio ar y gân/caneuon ac yn dysgu eu rhan benodol gan recordio eu cyfraniad yn y pen draw at berfformiad band rhithiol.
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn bod yn rhan o’r rhaglen ar-lein yn creu cerddoriaeth gyda’n gilydd, cysylltwch â’r isod gan nodi’r offeryn o’ch dewis:-
Ar e-bost : strongertogetherbridgend@gmail.com