Mae Llun yn Dweud Stori

Ar gyfer yr her yma bydd rhaid i chi gael llun neu allu tynnu llun a fydd yn helpu i ddweud eich stori.

Gan ddefnyddio eich llun fel ysbrydoliaeth, ysgrifennwch ychydig eiriau i fynd gydag ef. Gall fod yn gerdd syml neu’n stori fer, chi sydd i ddewis.

Profwch pa mor greadigol allwch chi fod drwy roi cynnig ar yr her yma gyda lluniau gwahanol a dewis eich ffefrynnau. Ar gyfer y rhai sy’n defnyddio cyfrifiadur neu ffôn symudol, gallwch rannu eich llun a’ch stori

Ar e-bost: claudetteevans22@gmail.com

Os ydych chi’n tynnu lluniau newydd, gall y rhain fod yn bethau rydych chi’n eu gweld o’ch ffenest – rhannwch y pethau sy’n rhoi llawenydd i chi, ac a fydd yn rhoi pleser i bobl eraill hefyd efallai.

Hafan

Create your website with WordPress.com
Get started
%d bloggers like this: